Jeremeia 4:1-2
Jeremeia 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os dychweli, Israel,” medd yr ARGLWYDD, “os dychweli ataf fi, a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu, ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’, yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”
Jeremeia 4:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai’r ARGLWYDD “Ie, troi yn ôl! Cael gwared â’r eilun-dduwiau ffiaidd yna o’m golwg i a stopio crwydro o hyn ymlaen; dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo’u bendithio nhw, a byddan nhw’n ymffrostio ynddo.”
Jeremeia 4:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir. A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.