Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 42:1-12

Jeremeia 42:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Nesaodd swyddogion y lluoedd, a Johanan fab Carea a Jesaneia fab Hosaia, a'r holl bobl yn fach a mawr, a dweud wrth y proffwyd Jeremeia, “Os gweli'n dda, ystyria'n cais, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a thros yr holl weddill hyn, oherwydd gadawyd ni'n ychydig allan o nifer mawr, fel y gweli. Dyweded yr ARGLWYDD dy Dduw wrthym y ffordd y dylem rodio a'r hyn y dylem ei wneud.” Atebodd y proffwyd Jeremeia hwy, “Gwnaf, mi weddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich cais, a beth bynnag fydd ateb yr ARGLWYDD, fe'i mynegaf heb atal dim oddi wrthych.” Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, “Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn. Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw.” Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr, a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo: ‘Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi. Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael. Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.

Jeremeia 42:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma swyddogion y fyddin i gyd, gan gynnwys Iochanan fab Careach a Iesaneia fab Hoshaia, a phawb arall (y bobl gyffredin a’r arweinwyr) yn mynd at y proffwyd Jeremeia, a gofyn iddo, “Plîs wnei di weddïo ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni – fel ti’n gweld does ond criw bach ohonon ni ar ôl. Gofyn i’r ARGLWYDD dy Dduw ddangos i ni ble i fynd a beth i’w wneud.” A dyma Jeremeia yn ateb, “Iawn. Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD eich Duw fel dych chi’n gofyn, a dweud wrthoch chi bopeth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwna i guddio dim byd.” A dyma nhw’n ateb Jeremeia, “Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e’n ei ddweud wrthon ni drwot ti. Dŷn ni’n dy anfon di at yr ARGLWYDD ein Duw, a sdim ots os fyddwn ni’n hoffi beth mae’n ei ddweud ai peidio, byddwn ni’n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.” Ddeg diwrnod wedyn dyma’r ARGLWYDD yn siarad â Jeremeia. Felly, dyma Jeremeia yn galw am Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin, a gweddill y bobl – y bobl gyffredin a’r arweinwyr. Yna, dyma Jeremeia’n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda’ch cais; a dyma beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i’n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i’n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i’n wirioneddol drist o fod wedi’ch dinistrio chi. Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod â’i ofn, achos dw i gyda chi, i’ch achub chi o’i afael. Dw i’n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi drwy adael i chi fynd yn ôl i’ch tir.’

Jeremeia 42:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant, Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;) Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom. Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich DUW yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych. A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni. Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW. Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia. Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr, Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef; Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi. Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef. A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.