Jeremeia 7:5-7
Jeremeia 7:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi’ch hunain! Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i’n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i’ch hynafiaid chi i’w chadw am byth bythoedd.
Jeremeia 7:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd, a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun, yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.
Jeremeia 7:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.