Ioan 1:43-51
Ioan 1:43-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” Gŵr o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip. Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y gŵr yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth.” Dywedodd Nathanael wrtho, “A all dim da ddod o Nasareth?” “Tyrd i weld,” ebe Philip wrtho. Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato, ac meddai amdano, “Dyma Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyll ynddo.” Gofynnodd Nathanael iddo, “Sut yr wyt yn f'adnabod i?” Atebodd Iesu ef: “Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren.” “Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, “ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel.” Atebodd Iesu ef: “A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn.” Ac meddai wrtho, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.”
Ioan 1:43-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.” Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida. Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i’r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a’r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.” “Nasareth?” meddai Nathanael, “Ddaeth unrhyw beth da o’r lle yna erioed?” “Tyrd i weld,” meddai Philip. Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai’n twyllo neb – Israeliad go iawn!” “Sut wyt ti’n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael. Atebodd Iesu, “Gwelais di’n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.” Dyma Nathanael yn ateb, “Rabbi, ti ydy Mab Duw; ti ydy Brenin Israel.” Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti’n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd, “Cewch weld pethau mwy na hyn! Credwch chi fi, byddwch chi’n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.”
Ioan 1:43-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff. A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn. Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.