Ioan 14:1-3
Ioan 14:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi.
Ioan 14:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion, “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd. Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i’n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. Wedyn dw i’n mynd i ddod yn ôl, a bydda i’n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi.
Ioan 14:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.