Ioan 14:12-17
Ioan 14:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad. Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab. Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf. “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.
Ioan 14:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw’n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad. Bydda i’n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i’w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu’r Tad. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe’i gwnaf. “Os dych chi’n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i’n ddweud. Bydda i’n gofyn i’r Tad, a bydd e’n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi. Dydy’r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.
Ioan 14:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf. O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.