Ioan 14:8-10
Ioan 14:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Arglwydd,” meddai Philip, “dangos y Tad i ni, a fydd angen dim mwy arnon ni!” Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti’n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’? Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy’n byw ynof fi, sydd ar waith.
Ioan 14:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai Philip wrtho, “Arglwydd, dangos i ni y Tad, a bydd hynny'n ddigon inni.” Atebodd Iesu ef, “A wyf wedi bod gyda chwi cyhyd heb i ti fy adnabod, Philip? Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Sut y medri di ddweud, ‘Dangos i ni y Tad’? Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun.
Ioan 14:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.