Ioan 16:7-8
Ioan 16:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi mod i’n mynd i ffwrdd. Os gwna i ddim mynd, fydd yr un sy’n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i’n ei anfon atoch chi. Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau’r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir
Rhanna
Darllen Ioan 16Ioan 16:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch. A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn
Rhanna
Darllen Ioan 16Ioan 16:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn
Rhanna
Darllen Ioan 16