Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 17:1-26

Ioan 17:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i’r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae’r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di. Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i’r rhai roist ti i berthyn i mi. Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon. Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi. Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a’r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i’r byd ddechrau. “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i’r rhai roist ti i mi allan o’r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti’n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di. Bellach maen nhw’n gwybod mai oddi wrthot ti mae popeth wyt wedi’i roi i mi wedi dod. Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw’n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthot ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i. “Dw i’n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi’u rhoi i berthyn i mi. Dw i’n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw. Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a’m pobl i ydy dy bobl di, a dw i’n cael fy anrhydeddu drwyddyn nhw. Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw’n dal yn y byd. Dw i’n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw’r rhai wyt ti wedi’u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni’n un. Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi’u cadw nhw’n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i’r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir. “Dw i’n dod atat ti nawr, ond dw i’n dweud y pethau yma tra dw i’n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi. Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae’r byd wedi’u casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o’r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg. Dŷn nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. Cysegra nhw i ti dy hun drwy’r gwirionedd; dy neges di ydy’r gwir. Dw i yn eu hanfon nhw allan i’r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. Dw i’n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi’u cysegru drwy’r gwirionedd. “Nid dim ond drostyn nhw dw i’n gweddïo. Dw i’n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw; dw i’n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi’u huno â ni er mwyn i’r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi rhoi iddyn nhw yr ysblander roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un: Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn, i’r byd gael gwybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi’u caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i. “Dad, dw i am i’r rhai rwyt ti wedi’u rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i’r byd gael ei greu. “Dad Cyfiawn, dydy’r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae’r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i’n dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”

Ioan 17:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: “O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di. Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef. A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud. Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â'r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd. “Yr wyf wedi amlygu dy enw i'r rhai a roddaist imi allan o'r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe'u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di. Y maent yn gwybod yn awr mai oddi wrthyt ti y mae popeth a roddaist i mi. Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i. Drostynt hwy yr wyf fi'n gweddïo. Nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist imi, oherwydd eiddot ti ydynt. Y mae popeth sy'n eiddof fi yn eiddot ti, a'r eiddot ti yn eiddof fi. Ac yr wyf fi wedi fy ngogoneddu ynddynt hwy. Nid wyf fi mwyach yn y byd, ond y maent hwy yn y byd. Yr wyf fi'n dod atat ti. O Dad sanctaidd, cadw hwy'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. Pan oeddwn gyda hwy, yr oeddwn i'n eu cadw'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi. Gwyliais drostynt, ac ni chollwyd yr un ohonynt, ar wahân i fab colledigaeth, i'r Ysgrythur gael ei chyflawni. Ond yn awr yr wyf yn dod atat ti, ac yr wyf yn llefaru'r geiriau hyn yn y byd er mwyn i'm llawenydd i fod ganddynt yn gyflawn ynddynt hwy eu hunain. Yr wyf fi wedi rhoi iddynt dy air di, ac y mae'r byd wedi eu casáu hwy, am nad ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd. Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o'r byd, ond ar i ti eu cadw'n ddiogel rhag yr Un drwg. Nid ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd. Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw'r gwirionedd. Fel yr anfonaist ti fi i'r byd, yr wyf fi'n eu hanfon hwy i'r byd. Ac er eu mwyn hwy yr wyf fi'n fy nghysegru fy hun, er mwyn iddynt hwythau fod wedi eu cysegru yn y gwirionedd. “Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddïo, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy. Rwy'n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, iddynt hwy hefyd fod ynom ni, er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i. Yr wyf fi wedi rhoi iddynt hwy y gogoniant a roddaist ti i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith, er mwyn i'r byd wybod mai tydi a'm hanfonodd i, ac i ti eu caru hwy fel y ceraist fi. O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle'r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio'r byd. O Dad cyfiawn, nid yw'r byd yn dy adnabod, ond yr wyf fi'n dy adnabod, ac y mae'r rhain yn gwybod mai tydi a'm hanfonodd i. Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad â'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy.”

Ioan 17:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur. Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd. Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt: Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i. A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.