Ioan 2:15-16
Ioan 2:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a’u gyrru nhw i gyd allan o’r deml gyda’r defaid a’r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”
Ioan 2:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.”
Ioan 2:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.