Ioan 3:20-21
Ioan 3:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu. Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.
Ioan 3:20-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld. Ond mae’r rhai sy’n ufudd i’r gwir yn dod allan i’r golau, ac mae’n amlwg mai Duw sy’n rhoi’r nerth iddyn nhw wneud beth sy’n iawn.”
Ioan 3:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.