Ioan 4:13-14
Ioan 4:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
Rhanna
Darllen Ioan 4Ioan 4:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
Rhanna
Darllen Ioan 4Ioan 4:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
Rhanna
Darllen Ioan 4