Ioan 8:44
Ioan 8:44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych â'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.
Ioan 8:44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae’ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o’r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo. Pan mae’n dweud celwydd, mae’n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd!
Ioan 8:44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.