Job 11:13-15
Job 11:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os cyfeiri dy feddwl yn iawn, fe estynni dy ddwylo tuag ato; ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt, ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll; yna gelli godi dy olwg heb gywilydd, a byddi'n gadarn a di-ofn.
Rhanna
Darllen Job 11Job 11:13-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os gwnei di droi at Dduw, ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi – troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi’i wneud, a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder – yna byddi’n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd, ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
Rhanna
Darllen Job 11Job 11:13-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef; Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni
Rhanna
Darllen Job 11