Job 2:3
Job 2:3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae’n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae’n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”
Job 2:3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos.”
Job 2:3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni DUW, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos?