Job 28:12-28
Job 28:12-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall? Ni ŵyr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw. Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”; dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.” Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian. Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir. Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur. Ni bydd sôn am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau. Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi. O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall? Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd. Dywedodd Abadon a marwolaeth, “Clywsom â'n clustiau sôn amdani.” Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle. Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd. Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd â mesur, a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau, yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan. A dywedodd wrth ddynolryw, “Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.”
Job 28:12-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb? Ble mae deall i’w gael? Does neb yn gwybod ble mae; dydy e ddim i’w gael ar dir y byw. Mae’r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’ a’r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’ Does dim modd ei brynu gyda bar o aur, na thalu amdano drwy bwyso arian. Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir, nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith. Dydy aur na grisial ddim cystal, ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano. Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw; mae pris doethineb yn uwch na pherlau. Dydy topas Affrica yn werth dim o’i gymharu, a dydy aur pur ddim yn ddigon i’w brynu. O ble mae doethineb yn dod? Ym mhle mae deall i’w gael? Mae wedi’i guddio oddi wrth bopeth byw, hyd yn oed yr adar yn yr awyr. Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud, ‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’ Dim ond Duw sy’n gwybod sut i’w gyrraedd; mae e’n gwybod o ble mae’n dod. Mae e’n gweld i bedwar ban byd; mae’n gweld popeth sydd dan yr haul. Pan benderfynodd pa mor gryf ydy’r gwynt, a mesur maint y dyfroedd; pan osododd reolau i’r glaw a llwybr i’r mellt a’r taranau, gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth; ei sefydlu a’i archwilio’n ofalus. A dwedodd wrth y ddynoliaeth: ‘Parchu’r ARGLWYDD – dyna sy’n ddoeth; peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
Job 28:12-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall? Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw. Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi. Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir. Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi. Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau. Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur. Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall? Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd. Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi. DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi. Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd; I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur. Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau: Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan. Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.