Job 32:6-9
Job 32:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna, dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn: “Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw’n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i’n feddwl. Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i’r dynion hŷn siarad; rho gyfle i’r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’ Ond Ysbryd Duw yn rhywun, anadl yr Un sy’n rheoli popeth sy’n gwneud iddo ddeall. Nid dim ond pobl mewn oed sy’n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy’n iawn.
Job 32:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad: “Dyn ifanc wyf fi, a chwithau'n hen; am hyn yr oeddwn yn ymatal, ac yn swil i ddweud fy marn wrthych. Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad, ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’ Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun, ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus. Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth, ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.
Job 32:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.