Job 33:15-18
Job 33:15-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu’n drwm, pan maen nhw’n gorwedd ar eu gwlâu, mae e’n gwneud i bobl wrando – yn eu dychryn nhw gyda rhybudd i beidio gwneud rhywbeth, a’u stopio nhw rhag bod mor falch. Mae’n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth.
Job 33:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos, pan ddaw trymgwsg ar bobl, pan gysgant yn eu gwelyau, yna fe wna iddynt wrando, a'u dychryn â rhybuddion, i droi rhywun oddi wrth ei weithred, a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho, a gwaredu ei einioes rhag y pwll, a'i fywyd rhag croesi afon angau.
Job 33:15-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely; Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt: I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn. Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.