Josua 22:5
Josua 22:5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond cofiwch gadw’r rheolau a’r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e’n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i’w addoli â’ch holl galon!”
Rhanna
Darllen Josua 22Josua 22:5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn unig byddwch yn ofalus iawn i gadw'r gorchymyn a'r gyfraith a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, i garu'r ARGLWYDD eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.”
Rhanna
Darllen Josua 22Josua 22:5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi; sef caru yr ARGLWYDD eich DUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.
Rhanna
Darllen Josua 22