Josua 4:21-23
Josua 4:21-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. Canys yr ARGLWYDD eich DUW chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd
Josua 4:21-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma fe’n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i’w tadau, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’ esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’ Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o’n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu’r Môr Coch pan oedden ni’n croesi hwnnw.
Josua 4:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a dweud wrth yr Israeliaid, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn?’ dywedwch wrthynt i Israel groesi'r Iorddonen ar dir sych; oherwydd sychodd yr ARGLWYDD eich Duw ddŵr yr Iorddonen o'ch blaen nes ichwi groesi, fel y gwnaeth gyda'r Môr Coch, pan sychodd hwnnw o'n blaen nes inni ei groesi.