Galarnad 3:21-24
Galarnad 3:21-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn dw i’n cofio hyn, a dyma sy’n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth. Maen nhw’n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.”
Galarnad 3:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”
Galarnad 3:21-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.