Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:39-55

Luc 1:39-55 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i’r dref yng nghanol bryniau Jwda lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi’n cyfarch Elisabeth, a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â’r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti’n ei gario wedi’i fendithio hefyd! Pam mae Duw wedi rhoi’r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i! Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma’r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di. Rwyt ti wedi dy fendithio’n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi’i ddweud wrthot ti.” A dyma Mair yn ymateb: “O, dw i’n moli’r Arglwydd! Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus! Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio, Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi – Mae ei enw mor sanctaidd! Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy’n ymostwng iddo. Mae wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! – Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl. Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr, ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog, ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim! Mae wedi helpu ei was Israel, a dangos trugaredd at ei bobl. Dyma addawodd ei wneud i’n cyndeidiau ni – dangos trugaredd at Abraham a’i ddisgynyddion am byth.”

Luc 1:39-55 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Jwda; Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth. A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd. A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.