Luc 10:33-35
Luc 10:33-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn dyma Samariad yn dod i’r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e’r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a’u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a’i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i’n mynd heibio.’
Luc 10:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano. Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, ‘Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn ôl iti pan ddychwelaf.’
Luc 10:33-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd, Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd. A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti.