Luc 11:1-13
Luc 11:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.” Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch: “ ‘Dad, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol; a maddau inni ein pechodau, oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn; a phaid â'n dwyn i brawf.’ ” Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi, oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’; a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’, rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau. Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion? Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”
Luc 11:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod roedd Iesu’n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o’i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.” Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw bob dydd. Maddau ein pechodau i ni – achos dŷn ni’n maddau i’r rhai sy’n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi.’” Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a’ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi? Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i’w roi iddo i’w fwyta.’ “Mae’r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi’r drws ac mae’r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’ Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; rhag achosi cywilydd bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi neidr i’ch plentyn pan mae’n gofyn am bysgodyn? Neu sgorpion pan mae’n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim! Felly os ydych chi sy’n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, mae’r Tad nefol yn siŵr o roi’r Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!”
Luc 11:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo? Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?