Luc 11:1-4
Luc 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.” Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch: “ ‘Dad, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol; a maddau inni ein pechodau, oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn; a phaid â'n dwyn i brawf.’ ”
Luc 11:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod roedd Iesu’n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o’i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.” Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw bob dydd. Maddau ein pechodau i ni – achos dŷn ni’n maddau i’r rhai sy’n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi.’”
Luc 11:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.