Luc 12:2-3
Luc 12:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.
Rhanna
Darllen Luc 12Luc 12:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd popeth sydd wedi’i guddio yn dod i’r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Bydd popeth ddwedoch chi o’r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi’n uchel o bennau’r tai.
Rhanna
Darllen Luc 12Luc 12:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
Rhanna
Darllen Luc 12