Luc 14:12-14
Luc 14:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma Iesu’n dweud hyn wrth y dyn oedd wedi’i wahodd i’r pryd bwyd, “Pan fyddi’n gwahodd pobl am bryd o fwyd, paid gwahodd dy ffrindiau, dy frodyr a dy chwiorydd, dy berthnasau, neu dy gymdogion cyfoethog. Mae’n bosib i bobl felly roi gwahoddiad yn ôl i ti, ac wedyn byddi di wedi derbyn dy dâl. Dyma beth ddylet ti ei wneud: Pan fyddi di’n trefnu gwledd, rho wahoddiad i bobl dlawd, methedig, cloff a dall, a byddi di’n cael dy fendithio. Dydyn nhw ddim yn gallu talu’n ôl i ti, ond byddi’n cael dy dâl pan fydd y rhai sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn codi yn ôl yn fyw.”
Luc 14:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu. Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion; a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”
Luc 14:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.