Luc 14:28-30
Luc 14:28-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri’r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith. Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben, ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna’r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’
Luc 14:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith? Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar gan ddweud, ‘Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.’
Luc 14:28-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw’r draul, a oes ganddo a’i gorffenno? Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a’i gwelant ei watwar ef, Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen.