Luc 16:1-10
Luc 16:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo. Felly dyma’r dyn yn galw’r fforman i’w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i’n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy’r stori’n wir, cei di’r sac.’ “‘Beth wna i?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i’n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota. Dw i’n gwybod! Dw i’n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’ “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o’r bobl oedd mewn dyled i’w feistr. Gofynnodd i’r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i’m meistr i?’ “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai’r fforman, ‘Tafla’r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’ “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla’r bil i ffwrdd,’ meddai’r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’ “Roedd rhaid i’r meistr edmygu’r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae’n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau. Dw i’n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio’ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd. “Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi’n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr?
Luc 16:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, “Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef. Galwodd ef ato a dweud wrtho, ‘Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.’ Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota. Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.’ Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Faint sydd arnat i'm meistr?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o olew olewydd.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith “bum cant.” ’ Yna meddai wrth un arall, ‘A thithau, faint sydd arnat ti?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o rawn.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘ac ysgrifenna “wyth gant.” ’ Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg. Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben. Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
Luc 16:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr. A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf. Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai. Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain. A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll. Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.