Luc 19:1-10
Luc 19:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd wedi dod i mewn i Jericho, ac yn mynd trwy'r dref. Dyma ddyn o'r enw Sacheus, un oedd yn brif gasglwr trethi ac yn ŵr cyfoethog, yn ceisio gweld p'run oedd Iesu; ond yr oedd yno ormod o dyrfa, ac yntau'n ddyn byr. Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno. Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw.” Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen. Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus.” Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, “Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn ôl bedair gwaith.” “Heddiw,” meddai Iesu wrtho, “daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.”
Luc 19:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy’r dref. Roedd dyn o’r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o’i gwmpas. Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu’n mynd, er mwyn gallu gweld. Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae’n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i’w dŷ. Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw’n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‘pechadur’ – dyn ofnadwy!” Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” Meddai Iesu, “Mae’r bobl sy’n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae’r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.”
Luc 19:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben-publican, a hwn oedd gyfoethog. Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.