Luc 2:1-7
Luc 2:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tua’r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy’r Ymerodraeth Rufeinig i gyd. (Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.) Roedd pawb yn mynd adre i’r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad. Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu’r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny’n disgwyl babi. Tra oedden nhw yno daeth yn amser i’r babi gael ei eni, a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi’n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a’i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim lle iddyn nhw yn yr ystafell westai.
Luc 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria. Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi'n feichiog. Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
Luc 2:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu’r holl fyd. (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) A phawb a aethant i’w trethu, bob un i’w ddinas ei hun. A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd), I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.