Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 2:48 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Luc 2:48 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma’i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni’n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.”

Luc 2:48 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat.”

Luc 2:48 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di.

Rhanna
Luc 2 BWM