Luc 2:8-9
Luc 2:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw’n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o’u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Rhanna
Darllen Luc 2Luc 2:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o'u hamgylch; a daeth arswyd arnynt.
Rhanna
Darllen Luc 2Luc 2:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
Rhanna
Darllen Luc 2