Luc 21:25-27
Luc 21:25-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr – arwyddion yn yr haul, y lleuad a’r sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth i’w wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi. Bydd pobl yn llewygu mewn dychryn wrth boeni am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i’r byd, achos bydd hyd yn oed y sêr a’r planedau yn ansefydlog. Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.
Luc 21:25-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr. Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.
Luc 21:25-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.