Luc 22:41-44
Luc 22:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo gan ddweud, “O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.” Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu. Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.
Luc 22:41-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, “Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Yna gwelodd angel o’r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad. Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed.
Luc 22:41-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.