Luc 6:12-16
Luc 6:12-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy’r nos yn gweddïo ar Dduw. Pan ddaeth hi’n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol: Simon (yr un roedd Iesu’n ei alw’n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‘y Selot’), Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.
Luc 6:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw. Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt: Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus; Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot; Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.
Luc 6:12-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw. A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion; Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus; Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes; Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.