Luc 6:20-23
Luc 6:20-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud: “Dych chi sy’n dlawd wedi’ch bendithio’n fawr, oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau. Dych chi sy’n llwgu ar hyn o bryd wedi’ch bendithio’n fawr, oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni’n llwyr ryw ddydd. Dych chi sy’n crio ar hyn o bryd wedi’ch bendithio’n fawr, oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd. Dych chi wedi’ch bendithio’n fawr pan fydd pobl yn eich casáu a’ch cau allan a’ch sarhau, a’ch enwau’n cael eu pardduo am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn. “Felly byddwch yn llawen pan mae’r pethau yma’n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna’n union sut roedd hynafiaid y bobl yma’n trin y proffwydi.
Luc 6:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud: “Gwyn eich byd chwi'r tlodion, oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.
Luc 6:20-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi.