Luc 8:40-56
Luc 8:40-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano. A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref, am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw. Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno. Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb. Daeth hon ato o'r tu ôl a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi. Ac meddai Iesu, “Pwy gyffyrddodd â mi?” Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat.” Ond meddai Iesu, “Fe gyffyrddodd rhywun â mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof.” Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith. Ac meddai ef wrthi, “Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iacháu di; dos mewn tangnefedd.” Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywun o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni'r Athro bellach.” Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, “Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir.” Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd â thad y ferch a'i mam. Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, “Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw. Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, “Fy ngeneth, cod.” Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta. Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.
Luc 8:40-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw’r llyn, roedd tyrfa yno i’w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano. Dyma ddyn o’r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu’n daer arno i fynd i’w dŷ. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o’i gwmpas. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella. Sleifiodd at Iesu o’r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma’r gwaedu yn stopio’n syth. “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu. Wrth i bawb wadu’r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae’r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!” Ond dyma Iesu’n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i’n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.” Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi’n dod a syrthio o’i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a’i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno. A dyma Iesu’n dweud wrthi, “Ferch annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!” Tra oedd Iesu’n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni’r athro ddim mwy.” Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi’n cael ei hiacháu.” Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni’r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e. Roedd y lle’n llawn o bobl yn galaru ac udo crio ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw’n gwybod ei bod hi wedi marw. Dyma Iesu’n gafael yn llaw’r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!” Daeth bywyd yn ôl i’w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a’r lle. Wedyn dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth iddi i’w fwyta. Roedd ei rhieni wedi’u syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.
Luc 8:40-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef. Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef: Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef. A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu, A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi. A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof. A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd. Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro. A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iacheir. Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan, a thad yr eneth a’i mam. Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y mae. A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi. Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod. A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi. A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.