Luc 8:47-48
Luc 8:47-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith. Ac meddai ef wrthi, “Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iacháu di; dos mewn tangnefedd.”
Luc 8:47-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
Luc 8:47-48 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi’n dod a syrthio o’i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a’i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno. A dyma Iesu’n dweud wrthi, “Ferch annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!”