Mathew 10:34-39
Mathew 10:34-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith – bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.’ “Dydy’r sawl sy’n caru ei dad a’i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; Dydy’r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi. Bydd y sawl sy’n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli’r bywyd go iawn, ond y sawl sy’n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo’i hun.
Mathew 10:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf. Oherwydd deuthum i rannu “ ‘dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’. “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.
Mathew 10:34-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.