Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Mathew 16:5-12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 16:5-12 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan groesodd y disgyblion i ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a’r Sadwceaid.” Wrth drafod y peth dyma’r disgyblion yn dod i’r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw. Roedd Iesu’n gwybod beth oedden nhw’n ei drafod, ac meddai, “Ble mae’ch ffydd chi? Pam dych chi’n poeni eich bod heb fara? Ydych chi’n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio’r pum torth i fwydo’r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu? Neu’r saith torth i fwydo’r pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu? Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a’r Sadwceaid.” Roedden nhw’n deall wedyn mai nid sôn am fara go iawn oedd e; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid oedd e.

Mathew 16:5-12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara. Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.” Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Ni ddaethom â bara.” Deallodd Iesu a dywedodd, “Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld? Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch? Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.” Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.

Mathew 16:5-12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid. A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym. A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi? Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid? Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.