Mathew 21:18-22
Mathew 21:18-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i’r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd. Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma’r goeden yn gwywo. Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi’u syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i’r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i’r môr,’ a byddai’n digwydd. Cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu.”
Mathew 21:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno. A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, “Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy.” Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren. Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, “Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, hynny a fydd. A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch.”
Mathew 21:18-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.