Mathew 23:23
Mathew 23:23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.
Mathew 23:23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwae chi’r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi’n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi’n talu dim sylw i faterion pwysica’r Gyfraith – byw’n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru’r pethau eraill.
Mathew 23:23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.