Mathew 28:19-20
Mathew 28:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”
Mathew 28:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
Mathew 28:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”