Mathew 3:1-17 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 3:1-17 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. Dyma’r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!’” Roedd dillad Ioan wedi’u gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Roedd pobl o Jerwsalem a phobman arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato. Pan oedden nhw’n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen. Dyma rai o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi’ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy’n mynd i ddod? Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi’n byw eich bod chi wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi’n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy’n tad ni.’ Gallai Duw droi’r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham! Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri’r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân! “Dŵr dw i’n ei ddefnyddio i’ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi’n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda’r Ysbryd Glân a gyda thân. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu’r grawn a’r us. Bydd yn clirio’r llawr dyrnu, yn casglu ei wenith i’r ysgubor ac yn llosgi’r us mewn tân sydd byth yn diffodd.” Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan. Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti’n dod ata i?” Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i’n ei ofyn; dyma sy’n iawn i’w wneud.” Felly cytunodd Ioan i’w fedyddio. Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o’r dŵr, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.”
Mathew 3:1-17 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ ” Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? Dygwch ffrwyth gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. A pheidiwch â meddwl dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân. Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'ôl i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, a bydd yn nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac yn casglu ei rawn i'r ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.” Yna daeth Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo. Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, “Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?” Meddai Iesu wrtho, “Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn.” Yna gadodd Ioan iddo ddod. Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”
Mathew 3:1-17 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea, A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef. A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen: A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch. Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o’r meini hyn, gyfodi plant i Abraham. Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo. Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi? Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo. A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef. Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.