Mathew 3:16-17
Mathew 3:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”
Rhanna
Darllen Mathew 3Mathew 3:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o’r dŵr, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.”
Rhanna
Darllen Mathew 3Mathew 3:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef. Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
Rhanna
Darllen Mathew 3