Mathew 4:1-11
Mathew 4:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn syth wedyn dyma’r Ysbryd yn arwain Iesu allan i’r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. Dyna pryd y daeth y diafol i’w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i’r cerrig yma droi’n fara,” meddai. “Na!”, atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’” Wedyn dyma’r diafol yn mynd â Iesu i’r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o’r fan yma. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i’w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.’” Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ” Yna dyma’r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a’u cyfoeth iddo. A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di’r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.” Ond dyma Iesu’n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.’ ” Yna dyma’r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.
Mathew 4:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd. A daeth y temtiwr a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara.” Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy'n dod allan o enau Duw.’ ” Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat; byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ” Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ” Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant, a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.” Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ” Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.
Mathew 4:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara. Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw. Yna y cymerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml; Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant; Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i. Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.