Mathew 5:17-20
Mathew 5:17-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau’r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw’n ei olygu. Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o’r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a’r ddaear yn diflannu. Rhaid i’r cwbl ddigwydd gyntaf. Bydd pwy bynnag sy’n torri’r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy’n byw yn ufudd i’r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol. Dw i’n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw’n fwy cyfiawn na’r Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o’r rhai mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Mathew 5:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd. Am hynny, pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd. Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
Mathew 5:17-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.