Mathew 5:21-22
Mathew 5:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ (ac y bydd pawb sy’n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod y sawl sy’n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw’n idiot, mae’n atebol i’r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.
Mathew 5:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern.
Mathew 5:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.