Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 5:22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 5:22 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod y sawl sy’n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw’n idiot, mae’n atebol i’r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.

Mathew 5:22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern.

Mathew 5:22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.